Directors' & Producers' Rights Society Logo   CODE OF PRACTICE (FICTION) (Welsh)

Home
Contacts
Registering With DPRS
Foreign Collections
UK Collections
Directors' Alliance
Directors' Forum
Contract Guidelines
(English)
Contract Guidelines
(Welsh)
Code of Practice
(Fiction) (English)
Code Of Practice
(Fiction)
(Welsh)
Code of Practice
(Non Fiction) (English)
Code of Practice
(Non Fiction) (Welsh)
PDF Versions for
downloading
Members
Independents Reporting
 
 


CYD FFORWM Y DIWYDIANT AR GYFER CYFARWYDDWYR

CÔD YMARFER

(FFUGLEN)

Ynghylch statws proffesiynol ac artistig
cyfarwyddwyr ym maes drama, comedi
ac adloniant sgriptiedig ar y teledu

Cymeradwyir gan Gyd Fforwm y Diwydiant ym Mhrydain
at ddefnydd darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu,
uwch-gynhyrchwyr, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac asiantau

 

CÔD YMARFER

RHAGYMADRODD

Mae Darlledwyr, Cynhyrchwyr a Chyfarwyddwyr yn cytuno fod y berthynas rhyngddynt yn allweddol i greu rhaglenni o ansawdd da mewn modd effeithlon. Pwrpas y Côd hwn yw adeiladu ar enghreifftiau sy'n bodoli eisoes o arferion da a diffinio'r statws proffesiynol, y driniaeth a'r trefniadau gweithio a fydd yn galluogi'r Cyfarwyddwr i wneud y gwaith gorau posibl o fewn terfynau unrhyw fath o raglen ffuglen.

Mae Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatent 1988 yn cydnabod y Prif Gyfarwyddwr fel cyd-awdur a chyd-berchennog cyntaf hawlfraint mewn gwaith. Dylai pwysigrwydd hanfodol rôl greadigol y Cyfarwyddwr gael ei adlewyrchu yn statws a threfniadau gweithio pob Cyfarwyddwr. Mae rôl y Cyfarwyddwr yn aros yr un fath ar bob math o gynhyrchiad, er bod gwahaniaethau rhwng rhaglenni a all effeithio ar y modd y cyflawnir y rôl honno.

Mae'r Côd hwn yn berthnasol i bob rhaglennu Ffuglen, er y bydd y modd y'i cymhwysir o ddydd i ddydd yn amrywio yn ôl gwahanol fathau o gynhyrchiad. Er enghraifft, mae gofynion ymarferol comedi sefyllfa'n wahanol iawn i ofynion cyfres hir gydag arddull sydd wedi'i bennu'n barod, ac mae'r ddau'n wahanol i ddrama unigol.

Serch hynny, dylai egwyddorion y Côd cytunedig hwn fod yn waelodol o hyn allan i bob cynhyrchiad o'r fath yn ddieithriad, a dylai cwrteisi, ystyrioldeb, gonestrwydd a thryloywder fod yn sylfaen i bob perthynas broffesiynol.

Y BERTHYNAS RHWNG CYNHYRCHYDD A CHYFARWYDDWR

1. Gweithgaredd tîm yw creu rhaglen deledu. Mae'r broses gydweithiol wrth galon pob gwaith cynhyrchu.

1.1 Dylai'r berthynas allweddol rhwng Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd fod yn seiliedig ar egwyddorion tryloywder a gonestrwydd. Cydweithio effeithiol, creadigol ac ymarferol rhwng y ddau hyn yw asgwrn cefn pob cynhyrchiad llwyddiannus.

1.2 Mae'r Cynhyrchydd yn gyfrifol am sicrhau y cwblheir y rhaglen mewn pryd, o fewn y gyllideb, ac am gynnal yr ansawdd a'r arddull y cytunwyd arnynt pan gomisiynwyd y rhaglen, gan gydweithio â'r Cyfarwyddwr.

1.3 Y Cyfarwyddwr sy'n gyfrifol, gan gydweithio â'r Cynhyrchydd, am agweddau creadigol a chrefftol y cynhyrchiad, ac am ysbrydoli tîm mawr, o'r gwaith cyn-gynhyrchu drwodd i'r graddio terfynol.

1.4 Dylid enwi cynrychiolydd o blith y criw cynhyrchu, sef y Cynhyrchydd fel arfer, yn 'Gynhyrchydd Enwebedig', y bydd y Cyfarwyddwr yn cydweithio ag ef neu hi yn bennaf.

YR HAWL I WYBOD

Os byddwch yn glir ac yn agored o'r cychwyn cyntaf gallwch osgoi problemau'n nes ymlaen.
2. Ni ddylai Cyfarwyddwr gychwyn ar brosiect heb wybod natur a maint y rôl y bydd yn ymgymryd â hi. Cyn dechrau'r ymrwymiad, dylai'r Cynhyrchydd a/neu'r Uwch Gynhyrchydd gael trafodaethau manwl gyda'r Cyfarwyddwr ar amrediad eang o faterion, gan gynnwys:-

2.1 Y sgript ac unrhyw weledigaeth neu gysyniad sy'n bodoli'n barod, gan gynnwys y fformat trosglwyddo ac unrhyw ymrwymiadau eraill y cytunwyd arnynt gyda'r Darlledwr.

2.2 Lle bo'n briodol, yr arddull sy'n perthyn i'r rhaglen yn barod ac y gall y Cyfarwyddwr fod yn gweithio oddi mewn iddo.

2.3 Gweledigaeth y Cyfarwyddwr ei hun a'i ffordd o fynd ati.

2.4 Hoff ddull y Cyfarwyddwr o weithio ac unrhyw ofynion gweithio arbennig a all fod gan y Cyfarwyddwr.

2.5 Amser paratoi a dyddiadau cyflwyno'r sgript.

2.6 Castio, gan gynnwys unrhyw elfennau cyn castio (gweler Cymal 6.1).

2.7 Y gynulleidfa yr anelir ati.

2.8 Terfynau'r gyllideb gynhyrchu.

2.9 Yr amserlen amlinellol.

2.10 Dewis aelodau allweddol y criw (gweler Cymal 5.3).

2.11 Trefniadau ar gyfer ôl-gynhyrchu, yn cynnwys Toriad y Cyfarwyddwr (gweler Adran 10).

CYN-GYNHYRCHU

3. Wrth roi'r amser mwyaf posibl i gyn-gynhyrchu gellir arbed arian yn y cynhyrchiad a chael cynnyrch o ansawdd gwell.

3.1 I weithio'n effeithlon bydd ar y Cyfarwyddwr angen lefel ddigonol o gefnogaeth a swyddfa sy'n dawel, gyda ffôn, desg a chadair.

SGRIPT

4. Y Cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am wireddu'r sgript.

4.1 Dylai'r Cyfarwyddwr drafod ei (h)agwedd greadigol yn uniongyrchol gyda'r Cynhyrchydd a, lle bo'n briodol, gyda'r Awdur neu Olygydd y Sgript.

4.2 Y Cynhyrchydd sy'n gyfrifol am gyflwyno'r sgript ar yr adeg briodol yn yr amserlen cyn-gynhyrchu.

4.3 Dylid cynnal llinellau cyfathrebu agored, clir ac uniongyrchol rhwng y Cynhyrchydd, y Cyfarwyddwr a'r Awdur neu Olygydd y Sgript, a ddylai orffen ysgrifennu ac ailysgrifennu sgriptiau cyn gynted ag y bo modd i osgoi effaith negyddol ar amserlen, cyllideb ac ansawdd artistig y cynhyrchiad.

4.4 Dylid delio'n syth â newidiadau hwyr yn y sgript sydd yn anochel oherwydd lleoliadau, amserlen, neu ffactorau eraill, gan y cyfuniad priodol o'r Cynhyrchydd, y Cyfarwyddwr a'r Awdur neu Olygydd y Sgript (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau contract).

CYNLLUNIO CYNHYRCHIAD

5. Yn gynnar yn y cyfnod cyn-gynhyrchu dylai'r Cyfarwyddwr drafod yr elfennau canlynol yn fanwl gyda'r Cynhyrchydd, y Rheolwr Cynhyrchu a, lle bo'n briodol, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol cyntaf:

5.1 Cyllideb y Cynhyrchiad
Po fwyaf o wybodaeth a rydd y Cynhyrchydd i'r Cyfarwyddwr am fanylion y gyllideb, hawsaf fydd hi i'r Cyfarwyddwr argymell y ffordd fwyaf effeithiol i wario'r arian sydd ar gael ac awgrymu ffyrdd y gellid arbed costau.

5.2 Yn ôl Canllawiau Contractau Cyd Fforwm y Diwydiant, dyddiedig 1 Gorffennaf 2002:- Ni ddylid disgwyl i'r cyfarwyddwr weithio o fewn cyllideb nad yw'r cyfarwyddwr yn gyfarwydd â hi. O dan amgylchiadau arferol, ni fyddai cyfarwyddwr yn gyfrifol am bennu cyllideb ond rhaid iddo/iddi gael y cyfle i ymgyfarwyddo â'r elfennau o'r gyllideb a fydd yn effeithio arno/arni.

5.3 Dylai'r graddau, os o gwbl, y mae Cyfarwyddwr yn atebol am reoli cyllideb fod yn fater i'w drafod ac i'w gytuno'n benodol.

5.4 Gwarantau
Lle bo'n ofynnol i Gyfarwyddwr lofnodi gwarant i weithio o fewn cyllideb cynhyrchiad terfynol, rhaid iddo/iddi allu mynd at y gyllideb honno'n briodol a chael rheolaeth ddigonol dros wariant.

5.5 Cyflogi Pobl Greadigol
Gan gydweithredu â'r Cynhyrchydd, ac yn amodol ar gyfyngiadau'r gyllideb a'r math o raglen, bydd y Cyfarwyddwr yn dewis aelodau allweddol y criw fel y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth, Dylunydd, Cyfarwyddwr Cynorthwyol cyntaf, Golygydd a Chyfansoddwr. Fel rheol bydd gan y Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd ill dau hawl i wrthod unrhyw enw. Cyn gwneud ymrwymiad, dylai Cynhyrchydd hysbysu Cyfarwyddwr am unrhyw aelodau criw allweddol sydd eisoes wedi, neu ar fin cael, eu cyflogi.

5.6 Yr Amserlenni Cynhyrchu a Saethu
Er mai'r Cynhyrchydd sy'n bennaf gyfrifol am yr amserlenni hyn, mae rôl y Cyfarwyddwr yn allweddol. Felly dylai'r Cyfarwyddwr gael y cyfle i roi mewnbwn manwl pan gânt eu llunio.

CYNLLUNIO ARTISTIG

6. Gan gydweithio â'r Cynhyrchydd, dylai'r Cyfarwyddwr, yn gynnar yn ystod y cyn-gynhyrchu, arwain mewn trafodaethau yn y meysydd canlynol:

6.1 Castio - gyda'r Cyfarwyddwr Castio.
Weithiau bydd y prif gast eisoes yn ei le ar ddechrau prosiect. Ond gan y bydd y Cyfarwyddwr yn gweithio'n agos gyda'r actorion i sicrhau'r perfformiadau gorau posibl, dylai gael y mewnbwn mwyaf posibl i ddewis y cast.

6.2 Dylunio - gyda Dylunwyr Setiau a Gwisgoedd, Goruchwylwyr Colur a Gwallt.

6.3 Sinematograffi - gyda'r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth.

6.4 Lleoliadau - gyda'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyntaf, Rheolwr Lleoliadau, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a Dylunydd.

CYNHYRCHU

7. Caiff pob penderfyniad creadigol a wneir yn y cyfnod hwn eu gwneud gan y Cyfarwyddwr, neu gan ymgynghori ag ef neu hi.

YMARFERION

8. Fel rheol cymerir ymarferion cyn saethu gan y Cyfarwyddwr gyda goruchwyliwr y sgript a Chyfarwyddwyr Cynorthwyol wrth law, er y gellir cytuno ar drefniadau gwahanol. Mae amser ymarfer yn gymorth i effeithlonrwydd ac ansawdd; mae'n helpu'r Cyfarwyddwr i grisialu syniadau ac yn gwella perfformiadau actorion, gan arbed amser, ac arian, felly, ar y set.

PRIF FFOTOGRAFFIAETH/RECORDIO

9. Y Cyfarwyddwr sy'n cyfarwyddo pob golygfa yn y sgript neu raglen. Dylid ymgynghori â'r Cyfarwyddwr felly ar fater pob saethiad ail uned a phwynt ailddechrau. Ym mhob amgylchiad arferol, dylai'r Cyfarwyddwr gael y cynnig cyntaf i gyfarwyddo unrhyw ailffilmiad neu ailsaethiad.

9.1 Mae gan y Cyfarwyddwr reolaeth greadigol dros saethu ar y llawr stiwdio, set neu leoliad.

9.2 Mae gan y Cynhyrchydd gyfrifoldeb cyffredinol dros holl agweddau rheolaeth y broses saethu, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch.

9.3 Bydd y Cyfarwyddwr yn cynnal y saethu mor effeithlon ag sy'n bosibl o fewn terfynau'r amserlen a'r gyllideb.

9.4 Mae'r Cynhyrchydd yn cydnabod mai'r Cyfarwyddwr yw'r person creadigol uchaf ar y set.

9.5 Bydd Cyfarwyddwyr yn perfformio hyd eithaf eu gallu creadigol lle cânt ryddid i wneud eu gwaith heb ormod o oruchwyliaeth.

9.6 Gan y Cyfarwyddwr, neu drwy'r Cyfarwyddwr, y daw pob nodyn i actorion neu dechnegwyr.

9.7 Weithiau bydd angen newidiadau i'r sgript yn ystod saethu. Dylai unrhyw drefniadau contractiol sy'n effeithio ar allu'r Cyfarwyddwr i wneud newidiadau o'r fath gael eu trafod gyda'r Cyfarwyddwr cyn ymrwymo i gytundeb.

9.8 Fel rheol dylid sicrhau y caiff y Cyfarwyddwr swyddfa dawel yn agos at y set i weithio ynddi yn ystod diwrnod y saethu.

9.9 Mae amodau gweithio'r Cyfarwyddwr yn effeithio ar ddiogelwch a chynhyrchiant ar y set. Am y rheswm hwn efallai y dylid gyrru'r Cyfarwyddwr at y set neu i'r lleoliad ac oddi yno yn ystod y cyfnod saethu. Dylid trafod hyn a chytuno arno gyda'r Cyfarwyddwr cyn dechrau ymrwymiad.

9.10 Mae gan y Cyfarwyddwr yr hawl i weld blaenbrintiau, a hynny ar sail ddyddiol fel rheol.

ÔL-GYNHYRCHU

10. Trwy gydol y broses ôl-gynhyrchu cydnabyddir, er mai'r Cynhyrchydd neu'r Darlledwr biau'r rheolaeth olygyddol derfynol, fod yn rhaid parchu cyfraniad artistig y Cyfarwyddwr fel cyd-awdur y rhaglen. Dylid trafod unrhyw drefniadau penodol ar gyfer y broses ôl-gynhyrchu gyda'r Cyfarwyddwr cyn yr ymrwymiad.

10.1 Bydd y Cyfarwyddwr yn goruchwylio pob cam ôl-gynhyrchu. Telir am yr holl waith o'r fath.

Dyma gamau ôl-gynhyrchu:-

10.1.1 Toriad y Cyfarwyddwr
Ar ôl gorffen saethu, mae gan y Cyfarwyddwr yr hawl i baratoi Toriad Cyfarwyddwr. Dylid caniatáu digon o amser ar gyfer y broses hon, yn ôl yr amserlen a natur y cynhyrchiad. Gwneir hyn gyda'r Golygydd yn unig ac fe'i dangosir i'r Cynhyrchydd pan fydd yn barod, neu ar ôl cyfnod y cytunwyd arno.
Mae ymateb y Cynhyrchydd i Doriad y Cyfarwyddwr yn anhepgor, yn enwedig os na welodd ddeunydd a olygwyd cyn hynny.

10.1.2 Toriad Terfynol
Dyma'r fersiwn o'r rhaglen a ddangosir i'r Comisiynydd. Fel rheol bydd y Cynhyrchydd, yr Uwch Gynhyrchydd a'r Cyfarwyddwr wedi cytuno arno rhyngddynt.

10.1.3 Cerddoriaeth
Y Cyfarwyddwr a'r Cyfansoddwr, gan gydweithio â'r Cynhyrchydd, fydd yn penderfynu ar natur y gerddoriaeth a ysgrifennir a, gyda'r Golygydd, lle y caiff ei gosod.

10.1.4 Effeithiau Sain: (ADR/Ôl-gydamseru, Gosod Traciau, Foley)
Bydd y Cyfarwyddwr yn cymryd unrhyw sesiwn ADR gydag actorion, ac yn rhoi cyfarwyddiadau manwl ar elfennau sain eraill. Gall y Cynhyrchydd gymryd rhan yn y broses hon.

10.1.5 Recordio Cerddoriaeth
Gwneir hyn dan gyfarwyddyd y Cyfansoddwr a'r Cyfarwyddwr, gyda'r Cynhyrchydd yn bresennol fel arfer.

10.1.6 Cymysgu Sain/Dybio
Gwneir hyn dan oruchwyliaeth y Cyfarwyddwr. Fel rheol bydd y Cynhyrchydd yn bresennol yn y cymysgu terfynol ac yn gwneud sylwadau.

10.1.7 Graddio/Trosglwyddo Ffilm Deledu
Gwneir hyn gan y Cyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a'r Golygydd, gan weithio gyda'r Graddiwr. Bydd y Cynhyrchydd yn aml yn bresennol mewn trosglwyddiad terfynol.

10.2 Y Cynhyrchydd a'r Darlledwr biau'r rheolaeth olygyddol derfynol

CYHOEDDUSRWYDD A HYRWYDDO

11. Nid y Cynhyrchydd yn unig fydd yn gyfrifol am hyrwyddo rhaglen deledu fel rheol. Serch hynny, dylai'r Cynhyrchydd sicrhau y caiff cynrychiolwyr y wasg a chyhoeddusrwydd wybodaeth am y Cyfarwyddwr i'w defnyddio mewn pecynnau i'r wasg, datganiadau i'r wasg ac ar gyfer dangosiadau fel y cydnabyddir cyfraniad y Cyfarwyddwr yn y cam yma. Dylai'r Cynhyrchydd a chynrychiolwyr y wasg/cyhoeddusrwydd drafod rhannau perthnasol o'r broses gyhoeddusrwydd gyda'r Cyfarwyddwr ymlaen llaw.

TREULIAU A THEITHIO

12. Dylai treuliau fod yn deg a rhesymol a dylid eu talu'n unol â Chanllawiau Contractau Cyd Fforwm y Diwydiant, sy'n datgan:

12.1 Dylai'r canllawiau ar dreuliau a ddefnyddir gan y cwmni ymrwymo drefnu fod cyfarwyddwyr yn cael eu had-dalu am unrhyw dreuliau a wariwyd, gan gynnwys rhai sy'n gysylltiedig â theithio a byw i ffwrdd o'u canolfan arferol. Ni waherddir cyfarwyddwr a/neu ei (h)asiant rhag trafod unrhyw faterion eraill parthed treuliau fel rhan o drafodaethau contract, gan gynnwys cwestiwn byw oddi cartref.

12.2 Rhaid i geisiadau am dreuliau gael eu cyflwyno gan gyda derbyniadau y cyfarwyddwr a'u talu gan y cwmni o fewn cyfnodau rhesymol a gellid nodi'r rhain yn y contract trwy gytundeb y ddau barti.

12.3 Lle cyfeirir yn y “Memo Dêl” a/neu'r contract at “Ganllawiau Treuliau” cwmni, dylid rhoi copi ohonynt i'r cyfarwyddwr ar y pryd, neu roi gwybod sut y gall gael golwg arnynt.

12.4 Os bwriedir newid egwyddorion cyffredinol uchod y trefniadau treuliau, dylid nodi ffyrdd eraill o dalu treuliau a chytuno arnynt yn y trafodaethau contract a'u cynnwys yn y contract ei hun.

I GLOI

13. Dylid defnyddio'r Côd hwn ochr yn ochr â'r CANLLAWIAU AR GYTUNDEBAU CYFARWYDDWYR a gyhoeddwyd gan Gyd Fforwm y Diwydiant ar gyfer Cyfarwyddwyr.

13.1 Mae'r Côd hwn wedi'i lunio fel rhan o broses barhaus. Bydd Cyd Fforwm y Diwydiant yn gyfrifol am adolygu a monitro'r modd y gweithredir y Côd hwn ac am gytuno ar unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau.

 

CYD FFORWM Y DIWYDIANT AR GYFER CYFARWYDDWYR

Lluniwyd y Côd Ymarfer hwn gan Weithgor Statws Cyd Fforwm y Diwydiant ar gyfer Cyfarwyddwyr. Dylid ei ddefnyddio fel sail ar gyfer pob perthynas rhwng Cynhyrchwyr a Chyfarwyddwyr.

Mae'r sefydliadau canlynol yn aelodau o'r Fforwm ac wedi cymryd rhan yn y trafodaethau ar y Côd hwn.

Sefydliadau sy'n Cynrychioli Cyfarwyddwyr
The Directors Guild of Great Britain (DGGB)
Broadcasting, Entertainment, Cinematograph and Theatre Union (BECTU)
Directors' and Producers' Rights Society (1992) Limited (DPRS)
The Personal Managers' Association (PMA)

Darlledwyr/Cynhyrchwyr
Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC)
British Sky Broadcasting Limited (BSkyB)
Channel Four Television Corporation (C4)
Five Limited (C5)
ITV Network Limited (ITV)
Producers' Alliance for Cinema and Television (PACT)
Sianel Pedwar Cymru (S4C)
Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

 

Contact:     Tel: +44 (0)20 7269 0677     Fax: +44 (0)20 7269 0676     Email: info@dprs.org