CYD FFORWM Y DIWYDIANT AR GYFER CYFARWYDDWYR
CÔD YMARFER
(FFEITHIOL)
Ynghylch statws proffesiynol
ac artistig
Cyfarwyddwyr teledu ffeithiol, dogfen, drama ddogfen
a rhaglenni ffeithiol heb eu sgriptio
Cymeradwyir gan Gyd Fforwm y Diwydiant
ym Mhrydain
at ddefnydd darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu,
swyddogion gweithredol, cynhyrchwyr,
cyfarwyddwyr a rheolwyr cynhyrchu
CÔD YMARFER
Rhagair
Mae Darlledwyr, Cynhyrchwyr a Chyfarwyddwyr
yn cytuno fod y berthynas rhyngddynt yn allweddol i greu
rhaglenni o ansawdd da mewn modd effeithlon. Pwrpas y Côd
hwn yw adeiladu ar enghreifftiau eisoes o arferion da a
diffinio'r statws proffesiynol, y driniaeth a'r trefniadau
gweithio a fydd yn galluogi'r cyfarwyddwr i wneud y gwaith
gorau posibl o fewn terfynau unrhyw fath o raglen.
Mae'r Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatent
1988 yn cydnabod y Prif Gyfarwyddwr fel cydawdur a chydberchennog
cyntaf hawlfraint mewn gwaith. Dylai pwysigrwydd hanfodol
rôl greadigol y Cyfarwyddwr gael ei adlewyrchu yn
statws a threfniadau gweithio pob Cyfarwyddwr. Mae rôl
y Cyfarwyddwr yn aros yr un fath ar bob math o gynhyrchiad,
er bod gwahaniaethau rhwng rhaglenni a all effeithio arfer
y modd y cyflawnir y rôl honno.
Mae'r Côd hwn yn berthnasol i bob rhaglennu
Ffeithiol, er y bydd y modd y'i cymhwysir o ddydd
i ddydd yn amrywio yn ôl gwahanol fathau o gynyrchiadau.
Mae Côd Ffuglen wedi'i gytuno ar wahân.
Dylid cymhwyso'r egwyddorion y Codau hyn ar
bob cynhyrchiad o'r math. Dylai cwrteisi, ystyriaeth, didwylledd
ac eglurdeb gynnal pob perthynas proffesiynol.
RÔL Y CYFARWYDDWR
1. Gweithgaredd tîm yw creu rhaglen
deledu. Mae'r broses gydweithiol wrth galon pob gwaith cynhyrchu.
1.1. Dylai'r berthynas allweddol rhwng y Cyfarwyddwr a
Chynhyrchydd neu'r Uwch Gynhyrchydd fod yn seiliedig ar
egwyddorion tryloywder, gonestrwydd a chwrteisi. Cydweithrediad
effeithiol, boed yn greadigol ac yn ymarferol, rhwng y ddau
hyn yw asgwrn cefn pob cynhyrchiad llwyddiannus.
1.2. Mae'r Cyfarwyddwr yn cydweithio a'r Cynhyrchydd i
sicrhau y cyflëir y rhaglen yn brydlon, o fewn y gyllideb
ac i'r safon a'r arddull y cytunwyd arno pan gomisiynwyd
y rhaglen. Dyma brif ddyletswydd y Cynhyrchydd.
1.3. Dylid enwi cynrychiolydd o blith y cwmni cynhyrchu,
sef y Cynhyrchydd fel arfer, yn 'Gynhyrchydd Enwebedig',
y bydd y Cyfarwyddwr yn cydweithio ag ef neu hi yn bennaf.
1.4. Mae'r gefnogaeth a roddir gan Reolwr Cynhyrchu i Gyfarwyddwr
yn bwysig er mwyn sicrhau gweithrediad cynhyrchiad effeithiol.
1.5. Mae'r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am agweddau creadigol
cynhyrchiad. Rôl y Cyfarwyddwr yw darparu safon, arddull
a chreadigrwydd. Mae yna weithgareddau penodol y dylai'r
Cyfarwyddwr yn unig fod yn gyfrifol amdanynt:
1.5.1. Ar leoliad neu mewn stiwdio, y Cyfarwyddwr sydd
yn pennu, rheoli neu'n dewis y weithred a'r sain sydd i'w
ffilmio neu'i recordio.
1.5.2. Y Cyfarwyddwr sy'n pennu sut y dylid recordio'r
weithred neu'r sain.
1.5.3. Y Cyfarwyddwr sy'n pennu, rheoli neu'n awgrymu sut
y gosodir deunydd.
1.6. Mewn rhaglenni Ffeithiol mae'r Cyfarwyddwr yn rhan
o'r broses golygu am nifer o resymau allweddol:
1.6.1. Mae golygu yn rhan o grefft greadigol y broses cyfarwyddo.
1.6.2. Y Cyfarwyddwr yw'r person sy'n gwybod sut y bwriadwyd
torri'r lluniau at ei gilydd. Saethu yw'r rhan gyntaf o'r
broses golygu.
1.6.3. Gall Cyfarwyddwr llai profiadol ddysgu o'r broses
golygu sut i saethu deunydd yn well.
1.7. Gall y Cyfarwyddwr chwarae nifer o rolau, er enghraifft
fel Cynhyrchydd, Gweithredwr Camera, Sain-recordydd neu
hyd yn oed cyfuniad o'r rhain. Os yw rolau lluosog yn angenrheidiol,
dylid caniatáu amser ychwanegol digonol mewn amserlen
ar gyfer perfformio'r rolau lluosog hyn.
1.8. Dylai egwyddorion y Côd hwn fod yn berthnasol
i unrhyw un sydd yn ymgymryd â rôl a dyletswyddau'r
Cyfarwyddwr.
DRAMA DDOGFEN
1.9. Mae'r Côd Ymarfer Ffeithiol hwn
yn dal i fod yn berthnasol i Gyfarwyddwr cynyrchiadau sydd
wedi'u dramateiddio'n llwyr neu'n rhannol neu wedi'u hail-lunio,
yn enwedig ond nid yn unig, o ran adran Moeseg, Tegwch a
Chywirdeb y Côd hwn. Deuir o hyd i gymalau ychwanegol
yn ymwneud a Sgriptiau, Cynllunio Artistig ac Ymarferion
o fewn y Côd Ffuglen.
YR HAWL I WYBOD
2. Ni ddylai Cyfarwyddwr gychwyn ar brosiect
heb wybod natur a maint y rôl y bydd yn ymgymryd ag
hi. Cyn gynted ag y bo modd a chyn dechrau'r ymrwymiad,
a chyda sylw priodol i'r rhwymedigaeth o gyfrinachedd ynghylch
y math drafodaethau, mae gan y Cyfarwyddwr yr hawl i ddisgwyl
trafodaethau manwl gyda'r Cynhyrchydd a/neu'r Uwch Gynhyrchydd
ar:-
2.1. Driniaeth, amlinelliad neu bwnc.
2.2. Natur a statws unrhyw sgriptiau neu amlinelliadau
a ysgrifennwyd eisoes.
2.3. Y darlledwr, y sianel, y gynulleidfa a'r amseriad
y rhaglen a fwriedir.
2.4. Unrhyw arddull neu fformat a drefnwyd ymlaen llaw.
2.5. Terfynau rôl y Cyfarwyddwr.
2.6. Gweledigaeth y Cyfarwyddwr ei hun a'i ffordd o fynd
ati.
2.7. Lefel yr adnoddau swyddfa sydd ar gael.
2.8. Y sgiliau technegol sydd angen ar gyfer unrhyw rôl
luosog ac unrhyw hyfforddiant sydd ar gael.
2.9. Hawl i weld cyfranwyr sydd eisoes wedi'u cyflogi.
2.10. Pa gyflwynwyr, gyfranwyr, adroddwyr a drefnwyd eisoes.
2.11. Dewisiad o aelodau allweddol y tîm cynhyrchu
a'r criw, ac eithrio lle y'i dewiswyd eisoes.
2.12. Terfynau'r gyllideb cynhyrchiad.
2.13. Amserlen amlinellol.
2.14. Trefniadau ar gyfer ôl-gynhyrchu.
2.15. Enwau unrhyw gyd-Gynhyrchwyr neu unrhyw drefniadau
gyda chyd-Gynhyrchwyr a allai effeithio ar gynnwys y cynhyrchiad.
2.16. Cliriadau'r hawliau sydd eu hangen ar gyfer y deunydd
o fewn y rhaglen.
2.17 Gwybodaeth berthnasol o Godau Ymarfer a Chanllawiau'r
diwydiant.
Y CYFNOD CYN-GYNHYRCHU
Amser a Chefnogaeth
3. Er mwyn cyflawni'r safon gynhyrchu orau mae angen
amser paratoi a meddwl digonol ar y Cyfarwyddwr cyn saethu
a thrwy gydol y cynhyrchiad. Dylai'r amserlenni adlewyrchu
hyn.
3.1. Lle y disgwylir i'r Cyfarwyddwr gyflawni rôl
ddeuol neu luosog, dylid amserlennu mwy o amser paratoi
nag yn arferol.
3.2. Er mwyn gweithredu'n effeithiol mae angen lefel digonol
o gefnogaeth gan y tîm cynhyrchu ar y Cyfarwyddwr
yn ogystal â swyddfa neu le gyda ffôn, desg,
cadair a chyfrifiadur.
YMCHWIL
4. Fel y disgwylir i'r Cyfarwyddwr ymgymryd
ag ymchwil digonol er mwyn bod yn hyddysg yn y pwnc a'r
lleoliadau, dylid darparu amser ac adnoddau digonol i'r
Cyfarwyddwr ymweld â lleoliadau a siarad â chyfranwyr
cyn saethu, ac eithrio lle y tybia'r Cyfarwyddwr nad yw'n
angenrheidiol.
4.1. Lle nad yw'r Cyfarwyddwr wedi bod yn rhan o'r ymchwil
gwreiddiol, dylid caniatáu amser i'r Cyfarwyddwr
i adolygu, ddeall a rhoi sylwadau ar yr ymchwil a'r rhagchwiliad.
4.2. Mae'r Ymchwilydd/wyr a/neu'r Is Gynhyrchydd yn gweithio
i'r Cyfarwyddwr, fydd yn dirprwyo dyletswyddau ar gyfer
yr ymchwil a'r rhagchwiliad.
CYFRANWYR (O FLAEN Y CAMERA)
5. Bydd y Cyfarwyddwr, ynghyd a'r Cynhyrchydd
a, pan fo angen, gyda'r darlledwr sy'n comisiynu, ddewis
y cyfranwyr i'r rhaglen fydd o flaen y camera naill fel
rhan o'r gweithredu neu fel atebwyr.
5.1. Os oes angen cyflwynydd ac nid oes un wedi'i ddewis
eisoes, dylai'r Cyfarwyddwr fod yn rhan o'r dewis hwnnw
fel arfer.
5.2. Dylai'r Cyfarwyddwr, mewn ymgynghoriad a'r Cynhyrchydd,
ddewis yr adroddwyr a'r artistiaid lleisio.
SGRIPTIAU AC ADRODDIAD
6. Y Cyfarwyddwr sydd yn y sefyllfa orau i
ddewis sut y bydd adroddiad, trosleisiadau neu unrhyw sgript
yn gweddu gyda'r ochr weledol.
6.1. Y Cyfarwyddwr sydd yn gyfrifol am gael a dal y trac
sain, a gall hyn gynnwys ysgrifennu unrhyw sgript cyn-gynhyrchu
a pharatoi unrhyw adroddiad neu sylwebaeth i'w recordio.
Gall hyn osod 'llais' creadigol a naws y rhaglen.
6.2. Lle y mae'r Cynhyrchydd, yr Awdur, y Cyflwynydd neu
aelod arall o'r tîm cynhyrchu yn rhan o'r broses o
ysgrifennu'r sgript neu'r adroddiad, dylid annog y Cyfarwyddwr
i ddarparu'r drafft gyntaf.
6.3. Mae'r Cynhyrchydd yn cynnal rheolaeth olygyddol dros
y dewis terfynol o eiriau ond dylid caniatáu ac annog
y Cyfarwyddwr i osod y geiriau hynny wrth lun a gweddill
y trac sain ar gyfer yr effaith greadigol fwyaf.
CYLLIDEBAU
7. Er nad oes gan Gyfarwyddwyr y cyfrifoldeb fel arfer
am osod cyllideb, mae'n rhaid iddynt gael y cyfle i ddod
yn gyfarwydd â'r elfennau o'r gyllideb fydd yn effeithio
ar eu gwaith.
7.1. Dylai'r graddau, os o gwbl, y mae Cyfarwyddwr yn atebol
am reoli cyllideb fod yn fater i'w drafod ac i'w gytuno'n
benodol.
7.2. Ni ddylid disgwyl i'r cyfarwyddwr weithio o fewn cyllideb
nad yw'r cyfarwyddwr yn gyfarwydd â hi.
7.3. Po fwyaf o wybodaeth a rydd y Cynhyrchydd i'r Cyfarwyddwr
am fanylion y gyllideb, hawsaf fydd hi i'r Cyfarwyddwr argymell
y ffordd fwyaf effeithiol i wario'r arian sydd ar gael ac
awgrymu ffyrdd y gellid arbed costau.
7.4. Oherwydd natur newidiol gyson rhaglenni dogfen a ffeithiol
yn ystod y cyfnod ymchwil a chynhyrchu, mae angen i'r Cyfarwyddwr
allu gwneud newidiadau i'r cynnwys, ac felly, gall awgrymu
newidiadau cyfatebol i'r gyllideb os oes angen. Mae hyn
yn cynnwys cymeradwyo dyraniad yr arian ar draws llinellau
cyllidebol o eitemau sydd bellach yn ddianghenraid i eitemau
sydd angenrheidiol. Fodd bynnag, mae unrhyw newidiadau yn
ddarostyngedig i gydsyniad y Cynhyrchydd.
7.5. Lle bo'n ofynnol i Gyfarwyddwr lofnodi gwarant i weithio
o fewn cyllideb cynhyrchiad terfynol, rhaid iddo/iddi allu
mynd at y gyllideb honno'n briodol a chael rheolaeth ddigonol
dros wariant.
AMSERLENNI
8. Mae cyllidebau ac amserlenni yn gysylltiedig.
Mae'r Cyfarwyddwr yn gyfrifol, ynghyd a'r Cynhyrchydd neu'r
Rheolwr Cynhyrchu, ar gyfer gweithrediad o ddydd i ddydd
yr amserlen ac mae mewn sefyllfa orau i rwystro amserlenni
rhag gor-redeg a dylai anelu at wneud hyn. Felly, y Cyfarwyddwr
ddylai'n aml gynllunio neu fod a chyfraniad sylweddol at
yr amserlen a bod yn rhan o unrhyw newidiadau iddynt.
8.1 Mae'n bwysig fod Cynhyrchwyr, Uwch Gynhyrchwyr a Rheolwyr
Cynhyrchu yn cydnabod fod gan Gyfarwyddwyr hefyd waith arall
i'w wneud y tu allan i oriau saethu gyda chyfarfodydd cynhyrchu,
galwadau ffôn, gwaith papur a pharatoadau ar gyfer
y diwrnod canlynol, ynghyd ag unrhyw deithio. Dylent geisio
liniaru unrhyw bwysau amser ychwanegol ar Gyfarwyddwyr trwy
sicrhau fod nifer priodol o ddyddiau wedi'u dyrannu yn yr
amserlen a'r gyllideb.
8.2 Dylai'r amserlen anelu at gael digon o amser wedi'u
gynnwys rhwng saethu a golygu i'r Cyfarwyddwr allu asesu'r
brysluniau a pharatoi deunydd ar gyfer y golygiad. Tuedda
hwn i fod y rhan lleiaf costus o'r cynhyrchiad a gall arbed
amser yn y golygiad.
CYFLOGI PERSONÉL
9. Mewn trafodaeth a'r Cynhyrchydd, dylai'r Cyfarwyddwr
gynhorthwyo wrth ddewis Ymchwilwyr, Is Gynhyrchwyr a Rheolwyr
Cynhyrchu os nad ydynt eisoes wedi'u penodi.
9.1 Mewn cydweithrediad a'r Cynhyrchydd a'r Rheolwr Cynhyrchu,
ac yn ddarostyngedig i gyfyngiadau'r gyllideb a'r math o
raglen, dylai'r Cyfarwyddwr allu dewis aelodau criw allweddol
megis Gweithredwr Camera (neu Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth),
Recordydd sain, Golygydd, Cyfansoddwr a Cymysgydd Dybio.
Fel arfer y Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd sydd a'r hawl i
roi feto ar unrhyw enw.
9.2 Mewn rhaglenni dogfen wedi'u dramateiddio neu lle
bo timau technegol lluosog yn gweithio mae'r un egwyddorion
dewis yn berthnasol i staff allweddol a thechnegwyr sy'n
gweithio i'r Cyfarwyddwr.
Y CYFNOD CYNHYRCHU
Saethu.
10. Y Cyfarwyddwr (yn gweithio gyda chefnogaeth
y Rheolwr Cynhyrchu) sydd yn gyfrifol am reoli holl ffilmio,
ar leoliad neu yn y stiwdio.
10.1 Y Cyfarwyddwr sydd â gofal am reolaeth amser a'r
amserlen ddyddiol gan gynnwys amserau cychwyn, amserau egwyl,
amserau gorffen a goramser pan fo angen.
10.2 Mae'r tîm cynhyrchu, y cyflwynwyr (os oes) a'r
criw yn gweithio i'r Cyfarwyddwr yn ystod ffilmio a dylid
sefydlu ffyrdd cyswllt drwy'r Cyfarwyddwr yn unol â
hynny.
10.3 Y Cyfarwyddwr sydd yn arwain y ffilmio mor effeithlon
â phosib o fewn cyfyngiadau'r amserlen a'r gyllideb
cyffredinol.
10.4 Y Cyfarwyddwr yw'r person creadigol uwch yn y lleoliad.
10.5 Gall goruchwyliaeth ormodol amharu ar allu'r Cyfarwyddwr
i berfformio hyd eithaf ei (g)allu creadigol.
10.6 Dim ond mewn sefyllfaoedd eithriadol yn ystod ffilmio
y bydd angen goruchwyliaeth o lefel uchel, ac yn y fath achos
dylai'r Cyfarwyddwyr roi rhesymau clir ymlaen llaw.
10.7 Dylai'r Cyfarwyddwr weld y brysluniau, ac os yn bosib,
yn ddyddiol.
IECHYD A DIOGELWCH
11. Er mai'r Cynhyrchydd sydd a'r cyfrifoldeb
cyfan am agweddau Iechyd & Diogelwch y broses saethu a
recordio, y Cyfarwyddwr ddylai ddilyn ymrwymiadau iechyd a
diogelwch a gynhwysir mewn unrhyw bolisi iechyd a diogelwch
ar bob adeg.
11.1 Lle bo'r Cyfarwyddwr yn perfformio dwy rôl neu
fwy, megis saethu a chyfarwyddo, dylai'r criw gynnwys o leiaf
dau berson.
11.2 Lle bo natur y ffilmio yn gofyn amdano, a lle bo Iechyd
a Diogelwch ac ystyriaethau sicrwydd wedi'u hystyried, y mae'n
ganiataol i'r Cyfarwyddwr weithio ar ei ben ei hun.
11.3 Gall amgylchiadau gwaith y Cyfarwyddwr effeithio ar
ddiogelwch a chynhyrchiant ar y lleoliad. Gall weithio oriau
eithafol o hir, gan gynnwys gyrru i ac o'r lleoliadau, beryglu
diogelwch, effeithio cynhyrchiant yn anffafriol a lleihau
creadigrwydd ac felly dylid ei osgoi ar bob cyfrif.
CYFWELD
12. Yn absenoldeb cyflwynydd, y Cyfarwyddwr
fydd yn aml yn gyfrifol am gynnal cyfweliadau, hyd yn oed
os na fwriedir defnyddio llais (neu wyneb) y Cyfarwyddwr yn
y fersiwn terfynol.
12.1 Fel arfer y Cyfarwyddwr sydd yn y sefyllfa orau i gynnal
cyfweliadau yn greadigol ac yn economaidd oherwydd gwybodaeth
y Cyfarwyddwr am gyd-destun y cyfweliad a'i berthnasedd i'r
rhaglen derfynol.
12.2 Mae angen i'r Cyfarwyddwr fod yn arbennig o sensitif
gyda'r atebwyr a chyfranwyr eraill, hyd yn oed pan fo'r holi
yn egniol.
12.3 Rhaid i'r Cyfarwyddwr egluro pwrpas y cyfweliad i'r
cyfrannwr ac ym mha gyd-destun y bwriedir ei ddefnyddio. Mae
angen i'r Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd fod yn ystyriol o unrhyw
osodiadau blaenorol a wnaed i'r cyfrannwr drwy gydol y broses
cynhyrchu.
12.4 Lle nad yw'r Cyfarwyddwr yn gallu bod yn rhan o'r golygiad,
mae'n gyfrifoldeb ffurfiol ar y Cyfarwyddwr i basio unrhyw
wybodaeth ynglyn â chytundebau, ar lafar neu fel arall,
a wnaed gyda'r atebwr neu'r cyfrannwr at y Cynhyrchydd, yn
ddelfrydol yn ysgrifenedig.
Mewn achosion o'r math, mae'r Cynhyrchydd yn gyfrifol am gywirdeb
a thegwch o fewn y golygiad.
Y CYFNOD ÔL-GYNHYRCHU
13. Trwy gydol y broses ôl-gynhyrchu rhaid
parchu cyfraniad artistig a chreadigol y Cyfarwyddwr fel cydawdur
y rhaglen. Fodd bynnag, y Cynhyrchydd neu'r Darlledwr sydd
a'r rheolaeth golygyddol terfynol.
14. Bydd y Cyfarwyddwr fel arfer yn goruchwylio
pob cam ôl-gynhyrchu, o'r cydosodiad cyntaf hyd y trosglwyddiad
terfynol.
15. Er ei fod yn bwysig i'r Cyfarwyddwr fod
yn rhan o'r broses golygu (gweler adran 1.6), mewn amgylchiadau
eithriadol mae'n bosib na all y Cyfarwyddwr fod yn bresennol
yn ystod y golygu, neu fod wedi cytuno ar ddechrau'r cynhyrchiad
i beidio a bod yn bresennol. Os nad dyma'r achos, mae'r gweithdrefnau
isod yn weithredol.
GWEITHDREFNAU GOLYGU
16. Y Cyfarwyddwr yw'r person fydd y golygydd
yn gweithio iddynt yn yr ystafell dorri neu'r ystafell olygu.
Dylai unrhyw awgrymiadau neu gyfarwyddiadau gan drydydd parti
gael eu gwneud ym mhresenoldeb neu drwy'r Cyfarwyddwr.
17. Dylai'r Cyfarwyddwr a'r Golygydd yn unig
gynhyrchu'r deunydd y cydosodiad cyntaf. Dylid caniatáu
amser digonol ar gyfer y broses hon, yn ôl yr amserlen
a natur y cynhyrchiad.
Dylai'r Cynhyrchydd ac eraill weld y cydosodiad
hwn, gyda chydsyniad y Cyfarwyddwr.
18. Dylid dangos y brasdoriad gan y Cyfarwyddwr
i'r Cynhyrchydd a/neu'r Uwch Cynhyrchydd cyn gynted ag y
bo modd. Gall y Darlledwr sy'n comisiynu hefyd fod yn rhan
o'r cam hwn.
19. Dylai'r toriad terfynol gael ei wneud
gan y Cyfarwyddwr (gyda'r Golygydd) gan ystyried barn y
Cynhyrchydd a'r Darlledwr sy'n comisiynu. Gall fod nifer
o gyfleoedd gwylio rhwng y brasdoriad a'r toriad terfynol.
Cytunir y toriad terfynol rhwng yr holl bartïon ac
mae'n rhan o'r broses gydweithredol. Mewn achos o anghydfod
rhwng y Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd Enwebedig, trafodir
unrhyw wahaniaethau yn ddidwyll rhwng yr holl bartïon.
Yr Uwch Gynhyrchydd neu'r Darlledwr sy'n comisiynu bydd
a'r rheolaeth dros y toriad terfynol.
20. Wedi cytuno ar y toriad terfynol, dylid
rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr am unrhyw newidiadau pellach
sydd i'w gwneud i'r rhaglen.
21. Y Cyfarwyddwr sydd yn y sefyllfa orau
i wneud y newidiadau angenrheidiol yn artistig, yn gywir
ac yn economaidd ac, yn y mwyafrif o achosion, dylid rhoi'r
cyfle iddo'u gwneud.
22. Mewn rhaglenni dadleuol neu sensitif ble
nad oedd y Cyfarwyddwr yn rhan o'r golygiad, yn llwyr neu'n
rhannol, dylai'r Cyfarwyddwr weld y toriad terfynol o'r
rhaglen gyfan neu, o leiaf y rhannau a gyfarwyddwyd ganddo/i,
a dylid caniatáu iddo/i wneud sylwadau adeiladol,
yn enwedig mewn perthynas â'r cyfranwyr.
23. Dylai'r Cyfarwyddwr, lle bynnag y mae'n
bosib ac mewn cydweithrediad a'r Cynhyrchydd, allu parhau
i arfer rheolaeth dros neu oruchwylio'r prosesau cynhyrchu
terfynol (ond yn ddarostyngedig i unrhyw anghenion gan y
Darlledwr sy'n comisiynu) gan gynnwys:
23.1 unrhyw ddewis pellach o gerddoriaeth
(gan weithio gyda'r cyfansoddwr, os oes);
23.2 dewis effeithiau a'u lleoliad (gan
weithio gyda'r golygydd sydd yn gosod y trac);
23.3 recordio'r adroddiad (cyfarwyddo'r
adroddwr yn y recordiad);
23.4 cymysgu sain neu'r dyb;
23.5 effeithiau gweledol a graffeg;
23.6 teitlau & credydau (gan ddewis
mewn cydweithrediad a'r Cynhyrchydd);
23.7 cywiriad lliw;
23.8 golygiad neu brint terfynol.
24. Yn gyffredinol y Cyfarwyddwr sy'n gyfrifol
am sicrhau fod lluniau llonydd y cynhyrchiad ar gael ac
ar amser.
25. Mae gan y Cyfarwyddwr yr hawl i gael ei
gydnabod fel y Cyfarwyddwr ar sgrin yn unol â rheolau'r
Darlledwr o ran credydau a hefyd fel yr ysgrifennwr lle
bo'r Cyfarwyddwr hefyd wedi ysgrifennu'r geiriau a ddefnyddir
gan yr adroddwr.
26. Mae gan y Cyfarwyddwr yr hawl i atal ei
(h)enw rhag cael ei gynnwys yn y credydau dim ond lle'i
f/bod yn anfodlon iawn a'r fersiwn terfynol.
CYHOEDDUSRWYDD A HYRWYDDIAD
27. Dylai'r Cynhyrchydd sicrhau y caiff cynrychiolwyr
y wasg a chyhoeddusrwydd wybodaeth am y Cyfarwyddwr i'w
defnyddio mewn pecynnau i'r wasg, datganiadau i'r wasg ac
ar gyfer dangosiadau fel y cydnabyddir cyfraniad y Cyfarwyddwr
yn y cam yma. Lle fo'n ymarferol, dylai'r Cynhyrchydd a
chynrychiolwyr y wasg/cyhoeddusrwydd drafod rhannau perthnasol
o'r broses gyhoeddusrwydd gyda'r Cyfarwyddwr ymlaen llaw.
TREULIAU A THRAFAELIO
28. Dylai treuliau fod yn deg a rhesymol a
dylid eu talu'n unol â Chanllawiau Contractau Cyd
Fforwm y Diwydiant ar gyfer Cyfarwyddwyr.
MOESEG, TEGWCH A CHYWIRDEB
MOESEG
29. Gan y tybia'r gynulleidfa fod rhaglen
ffeithiol neu ddogfen yn wir neu'n gywir, dylai unrhyw raglen
ffeithiol fod yn adlewyrchiad a gosodiad diffuant o realiti
a gwirionedd. O'r herwydd mae'n rhaid iddo fod yn onest,
deg a chywir.
30. Mae'n gyfrifoldeb ar y Cyfarwyddwr i sicrhau
tegwch a chywirdeb. Er hynny mae'n gyfrifoldeb wedi'i rannu
gyda'r Cynhyrchydd, yr Ymchwilydd/wyr, y Cwmni Cynhyrchu
a'r Darlledwr, ac ni ellir ei ddiddymu gan y Cyfarwyddwr.
31. Yn gyffredinol mae Darlledwyr wedi cyhoeddi
canllawiau neu godau ymarfer yn y maes. Dylai Cyfarwyddwyr
ymgyfarwyddo a rhain a'u dilyn - yn enwedig, Côd Rhaglenni
OFCOM (yr ITC gynt) Adran 2 (neu pa bynnag gôd arall
a ellir ei gyhoeddi gan OFCOM o bryd i'w gilydd) a Chanllawiau'r
BBC ar gyfer Cynhyrchwyr Penodau 2 & 3 (Gwerthoedd,
Safonau ag Egwyddorion) a Phennod 13 (Materion mewn Rhaglenni).
TEGWCH I GYFRANWYR
32. Fel arfer y Cyfarwyddwr a'r tîm
ymchwil sydd yn y sefyllfa orau i wybod os yw cyfrannwr
neu farn mewn dadl yn cael ei gyflwyno'n gywir ac yn deg.
Gall gwybodaeth Cyfarwyddwr, ac yn arbennig gwybodaeth y
tîm ymchwil fod yn well na gwybodaeth Cynhyrchydd
yn y maes hwn.
33. Ni ddylai'r Cyfarwyddwr na'r Cynhyrchydd
ganiatáu cyfrannwr i gael ei g/chamliwio a/neu'u
trin yn annheg, naill ai yn ystod y broses saethu neu olygu.
Ni ddylai Golygu 'gwyrdroi neu gamliwio barn hysbys yr atebwr'
(OFCOM). Dylid trin Cyfranwyr 'gyda gonestrwydd a chyda
pharch. Ni ddylid gwneud iddynt deimlo'u bod wedi'u camarwain,
twyllo na'u camliwio, cyn, yn ystod neu ar ôl y rhaglen,
oni bai fod yna ddadl er lles y cyhoedd wrth ddelio a throseddwr
neu weithgaredd anghymdeithasol' (BBC).
34. Dylai'r Cynhyrchydd bob amser ddiweddaru'r
Cyfarwyddwr ar ddyddiadau darlledu a sicrhau fod y cyfranwyr
yn cael eu hysbysu: 'Dylai Cyfarwyddwyr sicrhau fod cyfranwyr
yn ymwybodol o'r dyddiad darlledu arfaethedig' (OFCOM).
CYWIRDEB FFEITHIOL
35. Y Cyfarwyddwr, ynghyd â'r Ymchwilydd/wyr
a'r Cynhyrchydd, sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cynnwys,
gan gynnwys unrhyw ddarnau i gamera gan y Cyflwynydd.
36. Mae canllawiau Darlledwyr yn galw am 'barch
at gywirdeb ffeithiol'. Ni ddylid caniatáu i adluniadau
dramatig hyd yn oed 'wyrdroi'r ffeithiau hysbys'. 'Dylid
ymchwilio i ymchwil ar gyfer pob rhaglen yn drylwyr a gwirio
a chroeswirio ffeithiau.
37. Rhaid i Gynhyrchwyr roi'r pwysigrwydd
dyledus i farn Cyfarwyddwyr ac ymchwilwyr gan eu bod fel
arfer yn y sefyllfa orau i wybod os yw'r wybodaeth yn y
rhaglen yn wir.
38. Yn arbennig, pan wneir newidiadau golygyddol
hwyr ac anochel, dylai goblygiadau'r fath newidiadau gael
eu trafod gyda'r Cyfarwyddwr neu, os nad yw ar gael, gyda'r
Ymchwilydd.
39. Lle nad yw'r Cyfarwyddwr yn rhan o'r broses
golygu mae'n bwysig y gwneir pob ymdrech fod y Cyfarwyddwr
yn gwirio am gywirdeb ffeithiol.
40. Ni ddylai'r Cyfarwyddwr gamarwain y gwylwyr
yn fwriadol naill ai'n uniongyrchol neu drwy resymiad heb
gywiro'r rhesymiad hwnnw o fewn y rhaglen.
41. Yn olaf, mae gan Gyfarwyddwyr ac Ymchwilwyr
yr hawl a'r ddyletswydd i wrthwynebu unrhyw gamdriniaeth
canfyddedig o'u cyfranwyr neu o ystumiad ffeithiau.
CASGLIAD
42. Dylid defnyddio'r Côd hwn ochr yn
ochr â'r Canllawiau ar Gontractau Cyfarwyddwyr a gyhoeddwyd
gan Gyd Fforwm y Diwydiant ar gyfer Cyfarwyddwyr.
43. Bydd Cyd Fforwm y Diwydiant yn gyfrifol
am adolygu a monitro'r defnydd a wneir o'r Côd hwn
ac yn cytuno ar unrhyw ddatblygiadau neu ddiwygiadau.
CYD FFORWM Y DIWYDIANT AR GYFER CYFARWYDDWYR
Lluniwyd y Côd Ymarfer hwn gan
Weithgor Statws Cyd Fforwm y Diwydiant ar gyfer Cyfarwyddwyr.
Dylid ei ddefnyddio fel sail ar gyfer pob perthynas rhwng
Cynhyrchwyr a Chyfarwyddwyr.
Mae'r sefydliadau canlynol yn aelodau o'r
Fforwm ac wedi cymryd rhan yn y trafodaethau ar y Cod hwn.
Sefydliadau sy'n Cynrychioli Cyfarwyddwyr
The Directors Guild of Great Britain (DGGB)
Broadcasting, Entertainment, Cinematograph and Theatre Union
(BECTU)
Directors' and Producers' Rights Society (1992) Limited
(DPRS)
The Personal Managers' Association (PMA)
Darlledwyr/Cynhyrchwyr
Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC)
British Sky Broadcasting Limited (BSkyB)
Channel Four Television Corporation (C4)
Five Limited (C5)
ITV Network Limited (ITV)
Producers' Alliance for Cinema and Television (PACT)
Sianel Pedwar Cymru (S4C)
Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)
|