Directors' & Producers' Rights Society Logo   CONTRACT GUIDELINES (WELSH)

Home
Contacts
Registering With DPRS
Foreign Collections
UK Collections
Directors' Alliance
Directors' Forum
Contract Guidelines
(English)
Contract Guidelines
(Welsh)
Code of Practice
(Fiction)
Code of Practice
(Fiction) (Welsh)
Code of Practice
(Non Fiction)
Code of Practice
(Non Fiction)
(Welsh)
PDF Versions for
downloading
Members
Independents Reporting
 
 


CYD FFORWM Y DIWYDIANT AR GYFER CYFARWYDDWYR

CANLLAWIAU AR GYTUNDEBAU CYFARWYDDWYR

Teledu

At ddefnydd cyfarwyddwyr, asiantwyr, adrannau cytundebu, cynhyrchwyr a
chyfreithwyr tra'n cytundebu cyfarwyddwyr yn nheledu prydeinig


1. Rhagarweiniad

1.1 Mae darlledwyr a chynhyrchwyr yn derbyn y bydd perthynas gytundebol deg rhyngddynt a'r Cyfarwyddwr yn arwain at ganlyniadau gwell i'r ddau barti.

1.2 Mae'r Canllawiau yma, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2002 a'u hadolygu yn 2004, yn gosod yr hyn sydd wedi ei gytuno ar y cyd rhwng cyflogwyr, cyfarwyddwyr ac asiantau fel yr ymarfer gorau cymeradwy mewn nifer o feysydd cytundebol allweddol.

1.3 Dylid ymgynghori â'r Canllawiau ynghyd â'r ddau 'Gôd Ymarfer ar Statws Proffesiynol ac Artistig' (Ffuglen a Ffeithiol), sydd hefyd wedi eu cyhoeddi gan y Cyd Fforwm Diwydiant.

1.4 Bydd cyfeiriad i'r holl o'r dogfennau hyn cyn llunio'r cytundeb, ynghyd â thrafodaeth lawn ac agored o gymaint o agweddau'r cynhyrchiad ag sydd bosibl, yn cynorthwyo mewn cytuno termau sydd yn adlewyrchu bwriad y partïon yn glir.

1.5 Bydd y Cyd Fforwm Diwydiant yn gyfrifol am adolygu defnydd y Canllawiau hyn a chytuno i unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau pellach.

1.6 Bydd y partïon yn parhau i drafod rhai pwyntiau penodol sydd heb eu trafod yma, fel hawliau moesol, lle mae cytundeb eto i'w gyrraedd.

2. Fformat Cytundebau

2.1 Dylai pob cytundeb Cyfarwyddwr o hyn allan fod yn gyson gyda Chanllawiau Cytundeb Fforwm y Cyfarwyddwyr a'r Côd Ymarfer i Raglenni Ffeithiol a Ffuglen.

2.2 Dylai cytundebau fod mor fyr â phosibl, gan ddefnyddio geiriad safonol diwydiant eang er rhwyddineb dealltwriaeth.

2.3 Ni ddylai geiriad cytundeb Cyfarwyddwr fod yn anffafriol, a dylai unrhyw gyfeiriad parthed derbyn y cyfarwyddiadau yn ystod y broses gynhyrchu fod yn glir a chwrtais.

2.4 Cymeradwyir defnyddio y 'Cytundebau Sylfaenol' isod sy'n cydymffurfio â'r Canllawiau hyn:

• Cytundeb Safonol Cyfarwyddwr Llawrydd BBC, 1af Mawrth 2005.
• Cytundebau Model Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr a Benthyg PACT 2005.
• Cytundeb Cyfarwyddwr TAC, Mawrth 2005.

2.5 Pan ddefnyddir 'cytundebau sylfaenol', dylid nodi unrhyw amrywiad o'r ffurflen sylfaenol yn glir, ei drafod a'i gytuno gan bob parti.

3. Datblygiad, Hawliau

3.1 Pan fod angen gwaith paratoadol gan Gyfarwyddwr heb ymrwymiad gan y cyflogydd i gytundeb llawn (e.e. pan fod angen i Gyfarwyddwr gyfrannu i brosiect nad yw eto wedi cael y 'golau gwyrdd'), argymhellir y dylid defnyddio Cytundeb Datblygu syml. Fel arall, dylid cynnwys amodau datblygu priodol yng nghytundeb hirdymor y Cyfarwyddwr.

3.2 Os yw'r Cyfarwyddwr yn cael cynnig cyntaf i gyfarwyddo prosiect, bydd hyn yn cael ei ddatgan yn glir fel darpariaeth yn y Cytundeb Datblygu, neu yn y termau datblygu.

3.3 Bydd rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw ymrwymiad i'r Cyfarwyddwr i gyfarwyddo prosiect dan drafodaeth gan berson awdurdodedig.

3.4 Bydd yn rhaid cael eglurdeb llwyr ar statws hawlfraint cyfraniad y Cyfarwyddwr yn y cam datblygu.

3.5 Cyn cytuno cytundeb, cyfrifoldeb y Cyfarwyddwyr yw sicrhau eu bod yn gallu gwarantu y gallant lawn aseinio hawlfraint yn y rhaglen i'r darlledwr/cynhyrchydd ac y gallant gyflenwi tystiolaeth i'r perwyl hwnnw.

3.6 Mae'r darlledwyr/cynhyrchwyr wedi dod i gytundeb gyda'r Directors and Producers Rights Society (1992) Limited (“DPRS”) yn effeithiol o 1af Gorffennaf 2001 (Directors Rights Agreement) lle mae'r darlledwr/cynhyrchydd wedi cytuno i dalu i'r DPRS arian penodol y mae'r DPRS wedi derbyn y cyfrifoldeb o'i rannu i'w aelodau at ddefnyddiau eilaidd. Dylai pob cytundeb gynnwys cyfeiriad i'r Cytundeb hwn, ac i'r ffaith nad oes unrhyw hawl ychwanegol i unrhyw daliad arall at ddefnydd eilaidd.

4. Taliad, Memo Dêl

4.1 Dylid cyflwyno cytundebau Cyfarwyddwr cyn i'r gwaith fynd rhagddo, wedi ei lofnodi, a'i ddychwelyd yn brydlon yn unol a'r cyfarwyddiadau a roddwyd, a thaliadau yn cael eu gwneud ar amser yn unol a darpariaeth y cytundeb.

4.2 Dylai Cyfarwyddwyr gael eu talu am yr holl waith maent yn ei gyflawni dan gytundeb a'r darlledwr/cynhyrchydd bob amser. Ni ddylai oedi mewn cyflenwi cytundeb hir oedi taliad.

4.3 Mewn sefyllfaoedd pan na fydd cytundeb hirdymor ar gael i'w lofnodi cyn i gyfnod ymrwymiad y Cyfarwyddwr gychwyn, dylid defnyddio “Memo Dêl” cyn cychwyn yr ymrwymiad.

4.4 Dylai'r Memo Dêl, fel lleiafswm, nodi'r canlynol:

• Math a theitl y rhaglen.
• Natur a hyd y cyfnod gyda Dyddiad Terfyn (gweler 6.4 a 6.5 isod).
• Aseinio hawlfraint.
• Y sefyllfa o ran hawliau moesol.
• Taliadau a threuliau.
• A yw'r Cyfarwyddwr yn cael ei h/ymrwymo fel Prif Gyfarwyddwr, a/neu fel yr unig Gyfarwyddwr.

Dylai'r holl faterion hyn ymddangos hefyd yn y cytundeb llawn.

5. Cymalau Codau Perthnasol

5.1 Mae'r Codau Ymarfer Ffeithiol a Ffuglen yn cynnwys nifer o faterion ddylai fod yn bynciau trafod rhwng y Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd a/neu Uwch Gynhyrchydd gydag adlewyrchiad yn y cytundeb ei hun. Er enghraifft, dylai'r Cyfarwyddwr gael ei hysbysu am unrhyw gyd-gynhyrchwyr neu unrhyw gytundebau gyda chyd-gynhyrchwyr a allai effeithio ar gynnwys neu driniaeth o'r cynhyrchiad.

5.2 Dylai pob cytundeb gynnwys cyfeiriad at Gynhyrchydd Enwebedig Unigol y bydd yn cynrychioli'r cynhyrchydd/darlledwr a'r holl bartneriaid cynhyrchu. Dylid hysbysu'r Cyfarwyddwr o unrhyw newid o Gynhyrchydd Enwebedig Unigol mor fuan â phosibl.

5.3 Dylai cytundebau hefyd nodi enw Person Uwch o fewn tîm rheoli'r cwmni ymrwymo y gall y Cyfarwyddwr droi ati neu ato yn gyfrinachol os y cyfyd unrhyw anghytundebau neu gamddealltwriaethau yn ystod y prosiect.

5.4 Dylid nodi unrhyw gyfyngiadau posibl i delerau ymrwymiad arferol y Cyfarwyddwr, yn cynnwys hawl y Cyfarwyddwr i saethu ailffilmiad ac i gael ei ymgynghori ar saethu ail uned, yr hawl i weld 'rushes', darpariaeth o swyddfa, trafnidiaeth i'r saethu ayb, gael ei nodi yn glir yng nghytundeb y Cyfarwyddwr.

5.5 Dylid hysbysu'r Cyfarwyddwyr ymlaen llaw am unrhyw ymrwymiadau trydydd parti a all lesteirio eu gallu i wneud eu gwaith yn y ffordd arferol (e.e. parthed newidiadau sgript hwyr.)

6. Hyd (Cyfnod) y Cytundeb

6.1 Dylai hyd a natur yr argaffaeledd a ddisgwylir gan y Cyfarwyddwr trwy gydol prosiect, gan gynnwys y cyfnod ôl-gynhyrchu, gael ei gytuno i gymaint graddau ag y bo modd ar y cychwyn cyntaf a dylid cynnwys hynny yn amodau'r cytundeb a/neu'r “Memo Dêl”.

6.2 Dylid diffinio argaffaeledd yn nhermau cyfnodau “Cyfyngol” ac “Anghyfyngol”. Gellir diffinio cyfnodau “Anghyfyngol” ymhellach yn nhermau “Galwad Gyntaf” neu “Ail Alwad” neu unrhyw eiriad arall.

6.3 Pan ofynnir i Gyfarwyddwr ymgymryd a rôl ddeuol neu luosog, dylai hyd y cytundeb fod yn briodol i'r cyfanswm gwaith a fynnir.

6.4 Mae cynhyrchwyr/darlledwyr yn cydnabod bod gan gyfarwyddwyr hawl i dderbyn ymrwymiadau sydd yn dilyn y cyfnod cytundebol dan sylw.

6.5 Gall Cyfarwyddwyr ac asiantau ofyn am gynnwys Dyddiad Terfyn yng nghytundeb y Cyfarwyddwr.

6.6 Ni fydd absenoldeb Dyddiad Terfyn mewn cytundeb yn cael ei ddefnyddio gan gynhyrchwyr / darlledwyr fel cyfiawnhad am:-

• amserlen cynhyrchu afresymol.
• methiant i wneud penderfyniadau mewn da bryd.
• peidio talu cyfarwyddwyr am weithio tu hwnt i'w cyfnodau ymrwymiad gwreiddiol.

6.7 Bydd sefyllfaoedd o oediadau cynhyrchu yn cael eu trin yn deg, a dylid ymdrin â sefyllfa pan fo Cyfarwyddwr yn colli gwaith / incwm trwy drafodaethau unigol. Yn benodol, ni fydd disgwyl neu ofyn ar y Cyfarwyddwr i barhau i weithio heb dal.

6.8 Cyn cytuno cytundeb ar gyfer un prosiect a fydd neu a all ddigwydd yn gyfochrog â chytundeb arall sy'n bodoli'n barod, dylai'r Cyfarwyddwr ddatgelu'n llawn natur unrhyw ymroddiadau a allai greu gwrthdaro i'r darlledwr/cynhyrchydd.

7. Cyllideb ac Amserlen

7.1 Mae trafodaeth gynnar o'r ymarferoldeb o amserlenni cynhyrchiad ac ôl gynhyrchiad, ac mewn rhai achosion elfennau perthnasol y gyllideb yn hanfodol cyn arwyddo cytundeb, gyda'r Cyfarwyddwr yn cael y cyfle i godi unrhyw bryderon.

7.2 Dylai'r graddau, os o gwbl y mae'r Cyfarwyddwr yn atebol i reolaeth cyllidebol fod yn fater o drafodaeth a chytundeb penodol. Ni ddylai'r Cyfarwyddwr orfod gweithio o fewn cyllideb nad yw'n gyfarwydd a hi.

7.3 Lle bo'n gytundebol ofynnol i Gyfarwyddwr arwyddo warant o weithio o fewn cyllideb derfynol y cynhyrchiad, dylai'r Cyfarwyddwr gael mynediad priodol i'r gyllideb a mewnbwn addas i benderfyniadau gwario.

8. Oriau Gwaith Amser Rhydd, Gwyliau

8.1 Ni ellir disgwyl i Gyfarwyddwyr weithio oriau sy'n niweidiol i'w hiechyd neu diogelwch eu hunain nac i iechyd a diogelwch unrhyw un arall.

8.2 Dylai'r darpariaethau ar gyfer dyddiau gorffwys a gwyliau fod yn unol ag egwyddorion y Rheoliadau Amser Gwaith. Ar hyn o bryd, golyga hyn un diwrnod gorffwys am bob wythnos o waith, (un diwrnod mewn saith, neu dau ddiwrnod yn olynol mewn pedwar diwrnod ar ddeg), a phedair wythnos o wyliau gyda tâl (gwyliau blynyddol) y flwyddyn pro rata. Ni ddylid defnyddio dyddiau gorffwys fel gwyliau.

8.3 Dylai nifer dyddiau gorffwys a dyddiau gwyliau gael eu cytuno ar ddechrau'r ymrwymiad a'u cynnwys yn y cytundeb a'r “Memo Dêl” (os yn briodol).

8.4 Dylid gwneud pob ymdrech ar y ddwy ochr i'r Cyfarwyddwr gymryd dyddiau gorffwys a dyddiau gwyliau ar amseroedd priodol wedi eu cytuno yn ystod cyfnod y cytundeb. Rhaid parchu cyfnodau o wyliau y cytunwyd arnynt ond yn ystod cyfnodau o'r fath caiff cyfarwyddwyr wybod am unrhyw ddatblygiadau gweithredol eithriadol.

8.5 Mae'n rhaid talu pro rata yn ychwanegol i unrhyw gyfanswm ffi a gytunwyd ymlaen llaw am unrhyw ddyddiau gorffwys neu wyliau sydd heb eu cymryd yn ystod cyfnod y cytundeb.

8.6 Pro Rata rhagosodedig y Raddfa Ddyddiol a gytunwyd i gyfarwyddwyr yw 1/5 o'r raddfa wythnosol er gellir negydu amrywiaethau fydd yn foddhaol i'r ddwy ochr.

8.7 Dylai cytundebau nodi os, mewn perthynas a Gwyliau Banc, y disgwylir i gyfarwyddwyr weithio a/neu gael eu talu.

9. Gwaharddiad Terfynu, Tor-Cytundeb

9.1 Mae gohiriad yn fater y mae'n well ymdrin ag ef mewn ffordd ymarferol yn hytrach na thrwy gytundeb. Felly ni ddylai fod angen fel arfer am gymal gwaharddiad yng nghytundebau cyfarwyddwyr. Force majeure yw'r unig eithriad i hyn.

9.2 Dylid delio ag unrhyw sefyllfa pan fo Cyfarwyddwr yn colli gwaith/incwm
trwy gynnal trafodaethau unigol.

9.3 Os yw Cyfarwyddwr wedi'i ymrwymo'n ddiamod ar brosiect sydd wedi derbyn y “golau gwyrdd”, ac os yw'r cynhyrchydd, yn ddiweddarach yn dymuno terfynu cytundeb y Cyfarwyddwr, yna (yn amodol bob amser i 9.7 isod) bydd hawl gan y Cyfarwyddwr i dderbyn y taliad llawn o dan y cytundeb ag eithrio lle bo terfyniad mewn canlyniad i dor-gytundeb y Cyfarwyddwr neu lle bo achos o force majeure.

9.4 Gall Cyfarwyddwr, yn ddarostyngedig i dermau y cytundeb neilltuol, gael ei ystyried i fod mewn tor-gytundeb os er enghraifft fod y Cyfarwyddwr yn absennol o'i waith am gyfnod o gyfanswm o [rhif] o ddyddiau gwaith, neu yn ystod cyfnod y cytundeb yn cyflawni gweithred o anonestrwydd neu gamymddwyn dybryd neu weithred sydd ym marn resymol y cynhyrchydd yn cael effaith faterol andwyol ar drosglwyddiad neu ymelwad o unrhyw raglen wnaethpwyd o dan y cytundeb, neu os yw'r Cyfarwyddwr yn dod yn fethdalwr, neu yn cael ei gollfarnu o unrhyw drosedd heblaw trosedd fodurol nad yw yn ddedfryd warcheidiol.

9.5 Dylai cytundebau unigol gynnwys darpariaeth lle bo gan gyfarwyddwr sydd mewn tor-gytundeb yr hawl, o fewn amser penodedig i adfer y toriad (os yn adferadwy) heb i'r toriad fod yn achos i derfyniad.

9.6 Os yw'r cytundeb yn cael ei derfynu dan y darpariaethau gyfeirir atynt yn 9.4, bydd y Cyfarwyddwr yn cael ei dalu hyd at y diwrnod olaf weithiwyd yn unig.

9.7 Pan cyfyd angen i derfynu cytundeb a phan fod taliadau o dan amodau'r cytundeb yn cael eu trafod, cymerir i ystyriaeth y dyletswydd arferol i wneud yn iawn am unrhyw golledion, e.e. unrhyw gynnig rhesymol o ymrwymiad arall.

9.8 Rhaid i unrhyw gymalau tor-cytundeb fod yn deg ac o ddifrif. Nid yw anghytundebau artistig yn enghraifft o dor-cytundeb nac yn rheswm dilys dros ei derfynu heb dalu iawndal.

9.9 Dylid cyfeirio anghytundebau creadigol pwysig neu olygyddol rhwng Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd neu unrhyw brif gyfrannwr, i'r person hyn o fewn rheolaeth a enwir yng nghymal 5.3, fydd yn gwneud pob ymdrech i ddatrys y broblem gyda'r partïon dan sylw.

9.10 Lle na bo datrysiad, a bod y person hyn o fewn rheolaeth yn penderfynu mai'r peth gorau er budd anghenion y cynhyrchiad fyddai terfynu cytundeb y Cyfarwyddwr, yna bydd y Cyfarwyddwr a'r hawl i weddill y ffi yn llawn.

10. Credydau a Chyhoeddusrwydd

10.1 Caiff y Cyfarwyddwr gydnabod yng nghredydau pob rhaglen yr ymrwymwyd y Cyfarwyddwr ar ei chyfer. Fel arfer dylid rhoi credyd i Gyfarwyddwr mewn safle amlwg, naill ai'n gyntaf mewn dilyniant o gredydau agoriadol neu'n gyntaf neu'n olaf mewn dilyniant o gredydau ar y diwedd. Rhaid i unrhyw fwriad i newid y canllawiau hyn (e.e. pan fo'r Cyfarwyddwr wedi cyfarwyddo un darn o'r rhaglen yn unig; neu pan ei fod yn fwriad i'r cynhyrchydd neu'r uwch gynhyrchydd gael y credyd olaf; neu, fel canlyniad o ganllawiau credyd mewnol y darlledwr) gael ei egluro'n glir yn ystod y trafodaethau cytundebol.

10.2 Os yw'r Cyfarwyddwr wedi cymeryd rôl ddeuol neu luosog (e.e. fel ysgrifennwr neu draddodwr), mae gan y Cyfarwyddwr hawl i gredyd ychwanegol, yn amodol a chanllawiau credyd y darlledwyr.

10.3 Dylai'r Cyfarwyddwr gadw'r gallu i fynnu nad yw'r darlledwr/cynhyrchydd yn dangos ei chredyd/gredyd. Dylai unrhyw anawsterau posib o ran parchu dymuniad o'r fath gael ei egluro gan y cwmni ymrwymo yn ystod y trafodaethau cytundebol.

10.4 Os yw cytundeb y Cyfarwyddwr yn dod i ben cyn cwblhau'r cytundeb, mae hawl gan y Cyfarwyddwr i ofyn am ddileu ei gredyd o'r rhaglen. Os yw'r Cyfarwyddwr wedi ffilmio neu recordio dim mwy na 25% o'r rhaglen, yna mae hawl gan y cynhyrchydd i ddileu credyd y Cyfarwyddwr.

10.5 Pan gofynnir, bydd Cyfarwyddwyr yn cyflenwi deunydd bywgraffiad, i'w ddefnyddio ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd.

10.6 Dylai darlledwyr/cynhyrchwyr sicrhau fod cynrychiolwyr y wasg a chyhoeddusrwydd yn cael cyflenwad o wybodaeth am y Cyfarwyddwr i'w ddefnyddio mewn pecynnau i'r wasg, datganiadau i'r wasg a dangosiadau sgrîn. Mae'n rhaid cydnabod cyfraniad y Cyfarwyddwr ble bynnag mae cyfeiriad at y cynhyrchydd, cwmni cynhyrchu neu ddarlledwr.

11. Ail Olygu

11.1 Pan fo cais am ail olygu gan y comisiynydd darlledu gwreiddiol, bydd y cynhyrchydd yn gwahodd y Cyfarwyddwr i oruchwylio'r golygu, neu, os ddim ar gael i roi arweiniad ar sut y dylid gweithredu'r golygu.

12. Treuliau

12.1 Dylai'r canllawiau ar dreuliau a ddefnyddir gan y cwmni ymrwymo drefnu fod cyfarwyddwyr yn cael eu had-dalu am unrhyw dreuliau a wariwyd yn wirioneddol, yn gyfan ac angenrheidiol gan gynnwys rhai sy'n gysylltiedig â theithio o ac â byw oddi ar eu canolfan arferol. Ni fydd cyfarwyddwr neu ei (h)asiant yn cael eu gwahardd rhag trafod unrhyw faterion eraill parthed treuliau fel rhan o drafodaethau cytundebol, gan gynnwys byw oddi cartref.

12.2 Rhaid i geisiadau am dreuliau gael eu cyflwyno gan y Cyfarwyddwr a'u talu gan y cwmni o fewn cyfnodau rhesymol.

12.3 Pan gyfeirir yn y “Memo Dêl” a/neu'r cytundeb at Ganllawiau Treuliau y cwmni, dylai'r Cyfarwyddwr gael cyflenwad ar y pryd, neu gael gwybodaeth ar sut i ymgynghori a hwy.

12.4 Os yw darpariaethau treuliau i'w hamrywio o'r egwyddorion cyffredin uchod, dylid dynodi a chytuno ar ffyrdd gwahanol o gwrdd a'r treuliau yn y trafodaethau cytundebol a'u cynnwys yn y cytundeb.

13. Materion Cydymffurfio

13.1 Gan y Cynhyrchydd mae'r gair olaf ar faterion cydymffurfiaeth perthnasol i unrhyw raglen, bydd y Cyfarwyddwr yn cydymffurfio â unrhyw gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd ar faterion o'r fath. Bydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau perthnasol i gydymffurfiaeth yn cael ei weld fel tor-cytundeb materol gan y Cyfarwyddwr.

13.2 Ar gais cynhyrchydd, bydd Cyfarwyddwr yn cydweithio mewn unrhyw ymchwiliad perthnasol i gydymffurfiaeth, yn cynnwys rhai wedi eu cychwyn gan OFCOM neu unrhyw gorff rheoli neu statudol arall, heb daliad ychwanegol, ac os yw'r Cyfarwyddwr yn dal dan gytundeb i'r cynhyrchydd a'i beidio.

14. Indemniad

14.1 Fel arfer byddai disgwyl i'r Cyfarwyddwr indemnio darlledwr neu gynhyrchydd yn erbyn unrhyw rwymedigaeth yn deillio o unrhyw dorri gan y Cyfarwyddwr o'i (g)warantau. Fel arfer byddai disgwyl i'r darlledwr/cynhyrchydd indemnio'r Cyfarwyddwr rhag unrhyw rwymedigaeth yn deillio o ddeunyddiau a gyflenwyd gan y darlledwr/cynhyrchydd i'r Cyfarwyddwr.

14.2 Ni ddylid disgwyl i'r Cyfarwyddwr indemnio darlledwr/cynhyrchydd rhag unrhyw “fygythiad i dorri” honedig.


LLOFNODWYR CYD FFORWM Y DIWYDIANT AT DDEFNYDD CYFARWYDDWYR

Trefniadaethau'r Cyfarwyddwyr:

Broadcasting, Entertainment, Cinematograph and Theatre Union (BECTU)
Directors' and Producers' Rights Society (1992) Limited (DPRS)
The Directors Guild of Great Britain (DGGB)
The Personal Managers' Association (PMA)

Darlledwyr / Cynhyrchwyr:

Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC)
British Sky Broadcasting Limited (BSkyB)
Channel Four Television Corporation (C4)
Channel 5 Broadcasting Limited (C5)
ITV Network Limited (ITV)
Producers' Alliance for Cinema and Television (PACT)
Sianel Pedwar Cymru (S4C)
Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)

AELODAU'R GWEITHGOR ADOLYGU CANLLAWIAU 2004-5

Cynrychiolwyr y Cyfarwyddwyr:

Piers Haggard, Cyd-gadeirydd (DGGB)
Tom Bell (BECTU)
Simon Campbell-Jones (DGGB)
Terry lland (DGGB)
Jim Whiteford (DGGB)
Pennant Roberts (DPRS)
Craig Dickson (PMA)

Cynrychiolwyr y Darlledwyr / Cynhyrchwyr:

Filip Cieslik, Cyd-gadeirydd (ITV)
Rob Kirkham (BBC)
Kath Williams (C4)
Colin Campbell (Five)
Andrew Chowns (PACT)
Gwenda Griffith (TAC)


Contact:     Tel: +44 (0)20 7269 0677     Fax: +44 (0)20 7269 0676     Email: info@dprs.org